
Cardiff Council
Job Summary
Cardiff Council is currently offering Gweithiwr Cymdeithasol (Uwch) position for qualified individuals who are willing to work Full Time at their office in Cardiff Be sure to check job specifications carefully before proceeding.
Job Title: | Gweithiwr Cymdeithasol (Uwch) | Company Name: | Cardiff Council | Job Location: | Cardiff | Job Type: | Full Time | Job Category: | Cardiff Council | Job Link Expiry: | 2023-04-15 | Posted on: | Jobstrea.xyz |
Job Details:
Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd.
Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy’n cwmpasu dwyrain a gorllewin Caerdydd. Mae ein staff yn gweithio ochr yn ochr â thîm iechyd arbenigol ac yn cynnig cymorth amlddisgyblaethol i bobl leol. Rydym yn cefnogi unigolion i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau gan ganolbwyntio ar gynhwysiant a chefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n mynd ati i hyrwyddo arfer gorau ac sy’n cefnogi gweithio ar sail cryfder gyda’i ymarferwyr. Dywedodd archwiliad annibynnol wrthym ym mis Mawrth 2020 fod gennym feysydd o arfer da cenedlaethol ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y rhain a datblygu cyfleoedd lleol pellach o ansawdd uchel i fodloni canlyniadau pobl wrth i ni wella o’r pandemig.
Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw a gweithio. Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei statws fel prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Mae ganddi gymeriad unigryw ag ansawdd bywyd rhagorol ac enw da yn rhyngwladol am ei hamrywiaeth eang o atyniadau diwylliannol, chwaraeon a theuluol. Yn ddiweddar, enwebwyd Caerdydd y ‘drydedd ddinas orau’ yn Ewrop i fyw ynddi mewn arolwg gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n amlwg pam. Ai nawr yw’r amser iawn i chi weithio ym mhrifddinas Cymru gyda’i chymunedau bywiog ac amrywiol a’i hystod o brofiadau gwaith gwahanol? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am Y Swydd
Swydd Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 8 yw hon (37 awr yr wythnos), sydd ar gael yn y tîm Cymuned Anableddau Dysgu yng Ngwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd.
Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:
- Gwasanaeth sy’n gwerthfawrogi gweithwyr cymdeithasol proffesiynol ac sy’n cefnogi eu hymarfer.
- Dull sefydledig o ymdrin â gwaith cymdeithasol ar sail cryfderau gyda grwpiau mentor i annog trafodaeth a dysgu proffesiynol mewn sesiynau gwarchodedig.
- Cyfle i hyfforddi’n rhan o’r gwaith o gynnig darpariaeth a mentora ar sail cryfderau.
- Goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd i gefnogi a chynnal ymarferwyr.
- Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo’r ymarfer rhagorol a welwn gan ein gweithwyr cymdeithasol.
- Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol a mynediad at ddiweddariadau cyfreithiol ac ymarfer rheolaidd.
- Mae ein systemau a’n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio ystwyth a hyblyg ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol ar gyfer ei weithwyr.
- Cyfleoedd i helpu i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau i oedolion ag anabledd dysgu yng Nghaerdydd yn y dyfodol
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Brwdfrydedd ac angerdd dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd ag anabledd dysgu a’u teuluoedd sy’n trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
- Sylfaen gwerthoedd cryf a pharodrwydd i weithio’n weithredol gyda gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau wrth wraidd eich ymarfer
- Profiad o oruchwylio staff
- Profiad o weithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu
- Parodrwydd i ddysgu ymrwymiad i ymarfer rhagorol
- Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014
- Ymrwymiad i ddatblygu hyder a gwybodaeth o ran gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Byddwn yn eich helpu i gael profiad o waith a phrosesau’r Llys Gwarchod
- Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion
Gwiriwch y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person am feini prawf hanfodol a dymunol eraill.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os hoffech gael trafodaeth am weithio mewn gwasanaethau Anableddau Dysgu yng Nghaerdydd, cysylltwch â Helen Jones, Rheolwr Tîm, dros e-bost: [email protected]
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn addas ar gyfer rhannu swydd.
Mae gofyniad i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae diogelu oedolion ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor a’n nod yw cefnogi plant ac oedolion i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
O ganlyniad i amgylchiadau presennol COVID-19, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, mae croeso i chi gysylltu â mi ar y cyfeiriad e-bost uchod.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02430
Report Job