
Cardiff Council
Job Summary
Cardiff Council is currently offering Gweithiwr Cymdeithasol Cyngor Caerdydd position for qualified individuals who are willing to work Full Time at their office in Cardiff Be sure to check job specifications carefully before proceeding.
Job Title: | Gweithiwr Cymdeithasol Cyngor Caerdydd | Company Name: | Cardiff Council | Job Location: | Cardiff | Job Type: | Full Time | Job Category: | Cardiff Council | Job Link Expiry: | 2023-04-15 | Posted on: | Jobstrea.xyz |
Job Details:
Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn chwilio am nifer o Weithwyr Cymdeithasol cymwysedig i ddelio’n bennaf ag achosion Amddiffyn Plant.
Os ydych yn mwynhau gweithio a chefnogi plant a’u teuluoedd i’w helpu i gyflawni eu potensial llawn, yna gallai gweithio gyda Chyngor Sir Caerdydd fod y swydd iawn i chi.
Mae Caerdydd fel Prifddinas Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo, ac rydym yn gweithio o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r Ddeddf hon yn canolbwyntio ar weithio gyda phobl a theuluoedd mewn partneriaeth, i ddiwallu eu hanghenion er mwyn eu hatal rhag dwysáu. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor mai cyfrifoldeb pob unigolyn, a phob asiantaeth sy’n gweithio gyda’r plant, yw amddiffyn plant rhag niwed.
Mae Caerdydd yn Ddinas fywiog ac fe’i pleidleisiwyd fel un o’r lleoedd gorau i fyw yn y DU yn 2019. Mae ganddi hefyd rai o’r gweithgareddau diwylliannol a hamdden gorau.
Am Y Swydd
Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol profiadol ar gyfer y timau Derbyn ac Ardal (timau hirdymor) sy’n gallu gweithio gyda phlant y mae eu henwau wedi’u gosod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, teuluoedd o dan weithrediadau cyn achosion (AGG) ac achosion llys. Byddwch yn gweithio mewn tîm medrus prysur a chefnogol sy’n ceisio cael effaith gadarnhaol ar blant a’u teuluoedd er mwyn gwella eu diogelwch a’u lles.
Y manteision a gynigir
Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau’r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy’n addas i chi.
- Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy’n rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy’n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
Dyma rywfaint o’r hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o’n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clodydd Caerdydd.
Hafan – Gwaith Cymdeithasol Caerdydd: Gwaith Cymdeithasol Caerdydd
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghaerdydd byddwch yn cael effaith ar fywydau plant, a thrwy eich ymrwymiad a’ch ymroddiad byddwch yn helpu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Mae ein gweithwyr cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw ac yn helpu eu teuluoedd a allai fod wedi cael dechrau anodd mewn bywyd i gyflawni eu canlyniadau gorau. Fel gweithiwr cymdeithasol byddwch yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddiogelu plant, gan adeiladu ar berthnasoedd teuluol i gefnogi a grymuso plant a’u teuluoedd i wneud dewisiadau pwysig am gyfeiriad eu bywydau.
Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn y ffordd rydym yn gwrando ar anghenion ein gweithwyr cymdeithasol ac yn cynnig dull gweithio ystwyth a hyblyg gwych.
Mae gwrando ar deuluoedd a phlant wrth wraidd yr hyn a wnawn. Byddech yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd gan eu helpu i ddatblygu sgiliau i’w plant fyw mewn amgylchedd cartref hapus a diogel.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2022, mae’r rôl hon yn cynnig Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£39,373 – £43,553) Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swyddi hyn yn addas eu rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â [email protected] am drafodaeth.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siartr Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Job Reference: PEO01987
Report Job