
Cardiff Council
Job Summary
Cardiff Council is currently offering Gweithiwr Cymdeithasol Mabwysiadu i’r Person position for qualified individuals who are willing to work Full Time at their office in Cardiff Be sure to check job specifications carefully before proceeding.
Job Title: | Gweithiwr Cymdeithasol Mabwysiadu i’r Person | Company Name: | Cardiff Council | Job Location: | Cardiff | Job Type: | Full Time | Job Category: | Cardiff Council | Job Link Expiry: | 2023-04-15 | Posted on: | Jobstrea.xyz |
Job Details:
Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gobeithio recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol, gyda 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, i reoli llwyth gwaith diffiniedig o Blant sy’n destun Gorchmynion Lleoliad.
Os ydych yn mwynhau gweithio a chefnogi plant a’u teuluoedd i’w helpu i gyflawni eu potensial llawn, yna gallai gweithio gyda Chyngor Sir Caerdydd fod y swydd iawn i chi.
Mae Caerdydd fel Prifddinas Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo, ac rydym yn gweithio o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r Ddeddf hon yn canolbwyntio ar weithio gyda phobl a theuluoedd mewn partneriaeth, i ddiwallu eu hanghenion er mwyn eu hatal rhag dwysáu. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor mai cyfrifoldeb pob unigolyn, a phob asiantaeth sy’n gweithio gyda’r plant, yw amddiffyn plant rhag niwed.
Mae Caerdydd yn Ddinas fywiog ac fe’i pleidleisiwyd fel un o’r lleoedd gorau i fyw yn y DU yn 2019. Mae ganddi hefyd rai o’r gweithgareddau diwylliannol a hamdden gorau.
Am Y Swydd
Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol profiadol i reoli llwyth gwaith diffiniedig o blant sy’n destun Gorchmynion Lleoliad. Bydd eich rôl yn hanfodol wrth ddatblygu taith plant drwy gael eu paru, eu gosod gyda mabwysiadwyr, hyd at eu Gorchymyn Mabwysiadu yn cael ei ganiatáu. Pan na ellid paru plant yn llwyddiannus, byddwch yn darparu’r rôl wrth adolygu a symud ymlaen â newid yn eu cynllun gofal, gan ryddhau Gorchmynion Lleoliad mewn modd amserol a nodi cynlluniau tymor hir amgen.
Byddwch yn gweithio mewn tîm medrus prysur a chefnogol sy’n ceisio cael effaith gadarnhaol ar blant a’u teuluoedd er mwyn gwella eu diogelwch a’u lles.
Bydd angen i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso a phrofiad sylweddol o waith Trafodion Llys a Mabwysiadu.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar brofiad cadarn o ddiogelu ac amddiffyn plant a bod yn hyderus o ran achosion llys. Fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, rhaid i chi fod yn hyblyg a gallu gweithio dan bwysau. Oherwydd natur y rôl, mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr brofiad ôl-gymhwyso rheng flaen mewn gwasanaethau amddiffyn plant. Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â sgiliau asesu rhagorol a’r gallu i ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2022, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£39,373, £43,553) Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy’r post.
O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â [email protected] am drafodaeth.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02483
Report Job